Logos Multilingual Portal

Select Language



Carl William Brown  He was born in 1960 and, after a childhood he defined as "a little neurotic" he devoted himself to study. He fulfilled his military service in 1982 and studied languages at Cattolica University before transferring to the University of Bergamo. He attended other institutions before receiving a degree in languages. From 1990 to 1994, he taught and did research. In 1993, he began to write aphorisms and essays. Towards the end of 1997, he launched a variety of initiatives on the Internet; he published the "Manifesto of the New Facetious and Nihilistic Surrealism", while continuing to cultivate his passion for aphorisms.


bydd rhai deallusion yn gweithio i lanw ein hymennydd, tra bydd eraill yn gwneud eu gorau i\'w wacáu. Yr ail garfan sydd fwyaf niferus, wrth gwrs
byddai llawer yn hoffi osgoi talu trethi, ond y cyfoethog yn unig sy\'n llwyddo i wneud hynny. Mae\'r tlodion yn sylweddoli, felly, ei bod yn rhaid iddynt dalu hyd yn oed drostynt hwy
dŵr yw 80% o wneuthuriad dyn, felly nid oes ryfedd ei fod mor llygredig
ers llawer dydd, byddai\'r bobl fawr yn defnyddio grym, cyfreithiau a chrefydd i ddarostwng y werin; bellach mae ganddynt bêl-droed a\'r teledu hefyd
gwleidyddiaeth - celfyddyd ymdrin â bywyd cyhoeddus - yw gwaith gwleidyddion sy\'n gelfydd mewn materion preifat
mae\'r byd wedi ei dynghedu i fynd yn fwy doniol byth; dyna paham mai digrifwyr yw gwir ragredegyddion dyfodol ein diwylliant
mae\'r dynion drwg i\'w cael am fod dynion da - bwriwch y rhai da allan a bydd y rhai drwg yn graddol ddiflannu hefyd
mae’r gwleidyddion ar y chwith yn dweud bod y rhai ar y dde yn beryglus i’n gwlad, a’r rhai ar y dde yn dweud yr un peth am eu cyd-weithwyr ar y chwith. Y cwbl a awgrymwn i yw efallai fod y naill garfan a’r llall yn beryglus
troseddwyr ddoe yw boneddigion heddiw a throseddwyr heddiw fydd boneddigion yfory